Bu puteiniaid mewn masgiau a chefnogwyr iddynt yn gorymdeithio trwy strydoedd canol Llundain heddiw.
Diben yr orymdaith trwy Soho oedd diolch i drigolion am eu cefnogaeth mewn ymgyrch i rwystro puteiniaid rhag cael eu gyrru allan o’r ardal.
Roedd yr heddlu wedi cau dau fflat sy’n cael eu defnyddio gan buteiniaid ym mis Chwefror, gan honni eu bod nhw’n annog ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Ond ailagorwyd y fflatiau ar ôl i glymblaid o buteiniaid a thrigolion lleol fynd â’r mater i’r llys.
Trefnwyd yr orymdaith gan ddau fudiad – y Soho Working Girls a’r English Collective of Prostitutes.
Llun: Gorymdaith y puteiniaid a’u cefnogwyr yn Soho, Llundain, heddiw i ddiolch i bobl leol am helpu eu cadw’n ddiogel. (Dominic Lipinski/ PA Wire)