Mae 16 o bobl wedi cael eu lladd mewn damwain hofrennydd wrth iddi godi o ganolfan fwyaf Nato yn ne Aghanistan heddiw.

Yn ôl swyddogion Nato, nid oes unrhyw arwydd fod y digwyddiad wedi cael ei achosi gan ymosodiad milwrol, a sifiliaid oedd pawb o’r rhai a gafodd eu lladd.

Digwyddodd y ddamwain ym maes awyr de Kandahar i hofrennydd Mi-8 a oedd yn eiddo i gwmni o Rwsia sy’n cludo contractwyr a chyflenwadau i ganolfannau milwrol bach ledled y wlad.

Llun: Hofrennydd Mi-8 fel yr un a syrthiodd ym maes awyr De Kandhar heddiw.