Mae cefnogwyr pêl-droed yn Iwerddon yn edrych ymlaen yn eiddgar at glywed a fydd chwaraewr drutaf y byd yn chwarae ei gêm gyntaf i Real Madrid yn Nulyn nos yfory.

Mae disgwyl y bydd Cristiano Ronaldo’n chwarae i’r tîm byd-enwog o Sbaen mewn gêm gyfeillgor yn erbyn Shamrock Rovers.

Mae tua 11,000 o gefnogwyr pêl-droed yn gobeithio gweld y seren 24 oed a gafodd ei drosglwyddo o Manchester United am y swm uchaf erioed o £80 miliwn yr haf yma.

Mae Ronaldo a’i gyd-chwaraewyr wedi bod yn Iwerddon ers nos Lun am sesiwn naw diwrnod o ymarfer mewn gwersyll yn Maynooth, Swydd Kildare.

Llun: Cristiano Ronaldo’n llofnodi i gefnogwyr yn ystod y sesiwn hyffordd yn Maynooth. (Julien Behal/PA Wire)