Mae’r Pentagon wedi cadarnhau heddiw fod un o filwyr yr Unol Daleithiau a aeth ar goll yn Afghanistan wedi cael ei ddal gan y Taliban.
Mae’r milwr 23 oed wedi cael ei enwi fel Pfc Bowe R Bergdahl o Ketchum, Idaho.
Mae fideo ohono wedi cael ei dangos ar y rhyngrwyd lle mae’n dweud ei fod ofn na fydd yn gallu mynd adref.
Dywed datganiad y Pentagon iddo fynd ar goll ar 1 Gorffennaf.
Ar y fideo, lle mae ei ben wedi cael ei eillio, mae’n cael ei holi gan y rhai sy’n ei ddal yn garcharor, ac gyda’u hanogaeth mae’n apelio ar bobl America i berswadio’u llywodraeth i ddod â’u milwyr adref.
Dywedodd llefarydd ar ran byddin America yn Afghanistan, Lt Cmdr Christine Sidenstricker, fod y Taliban yn defnyddio’u carchararor ar gyfer propaganda.
“Dw i’n falch ei fod yn ymddangos yn ddianaf, ond eto fideo bropaganda’r Taliban yw hon – ac maen nhw’n torri’r gyfraith ryngwladol wrth ddefnyddio’r milwr fel hyn,” meddai.
Credir bod cynlluniau cudd ar y gweill gan luoedd arfog America i geisio cael hyd iddo a’i ryddhau, ond ni fydd y Pentagon byth yn gwneud unrhyw sylw ar faterion o’r fath.
Dywedodd llefarydd ar ran y Taliban, Zabiullah Mujahid, nad yw’r rhai sy’n dal y milwr wedi gosod unrhyw amodau hyd yma ar gyfer ei ryddhau.
Llun: Y milwr coll Pfc Bowe R Bergdahl yn ymddangos ar fideo bropaganda’r Taliban ar y rhyngrwyd.