Dywedodd Arweinydd yr Wrthblaid David Cameron heddiw y gallai llywodraeth Geidwadol dorri ar wyliau haf hir y senedd.
Wrth i ASau baratoi i adael am doriad o 82 diwrnod ddydd Mawrth, dywedodd Mr Cameron fod eu habsenoldeb hir o Dŷ’r Cyffredin yn “dwyn anfri ar enw da’r Senedd” ac yn rhwystro gwrthbleidiau rhag herio’r Llywodraeth ar faterion fel Afghanistan a’r economi.
“Nid mater o gyfanswm nifer y dyddiau y mae’r senedd yn eistedd mewn blwyddyn yw’r broblem, ond y toriad hir dros yr haf ac mae angen inni ei newid,” meddai Mr Cameraon ar Sky heddiw.
Dywedodd ei fod yn flin na fydd yn cael cyfle i holi’r Prif Weinidog yn y senedd eto tan fis Hydref:
“Mi hoffwn i’n fawr fod yn gofyn mwy o gwestiynau i’r Prif Weinidog ar hyn o bryd,” meddai.
Gwylio gwyliau gwleidyddion
Yn y cyfamser mae grŵp ymgyrchu o’r enw 38 Degrees yn cynnal arolwg i geisio darganfod faint o waith mae gwahanol Aelodau Seneddol yn ei wneud dros y 12 wythnos y bydd y senedd wedi cau.
Byddang yn gofyn yn uniongyrchol i ASau faint o amser y maen nhw’n ei dreulio’n cynnal cymorthfeydd, yn cyflawni gwaith etholaeth neu weithgareddau gwleidyddol, gweithio mewn ail swyddi neu gymryd gwyliau dros yr haf.
Mae aelodau’r grŵp hefyd yn cael eu hannog i anfon lluniau o ASau y maen nhw’n digwydd dod ar eu traws ar wyliau dros yr hefyd. Eu bwriad yw creu tabl cynghrair o ASau sy’n treulio’r niferoedd mwyaf a lleiaf o ddyddiau allan o’u hetholaethau, yn ogystal â map gwyliau’n dangos hoff gyrchfannau’r gwleidyddion.
“Mae ymddiriedaeth y bobl mewn gwleidyddion yn is nag erioed,” meddai David Babbs, cyfarwyddwr 38 Degrees.
“Gyda gwyliau haf hirach na phlant ysgol, mae aelodau 38 Degrees am sicrhau nad yw ein ASau’n treulio’r cyfnod yn ychwanegu at ei lliw haul neu falansau banc.”
Deellir bod y Prif Weinidog a’i wraig Sarah a’u dau fab yn bwriadu cael gwyliau yn Ardal y Llynnoedd ac y bydd Mr Cameraon yn ymweld â Groeg a Llydaw.
Llun: David Cameron a’i wraig Samantha ar wyliau yng Nghernyw y llynedd. (Ben Birchall/PA Wire)