Bu’n rhaid i drigolion pentref yng ngogledd-ddwyrain Lloegr adael eu tai ac aros mewn gwesty heddiw oherwydd llifogydd.

Dywed Heddlu Northumbria fod 14 o bobl wedi gadael eu cartrefi yn Rothbury, Northumberland, oherwydd dŵr yn codi yn y pentref.

Mae glaw trwm wedi tywyallt i lawr ledled gogledd-ddwyrain Lloegr drwy gydol ddoe a neithiwr.

Er bod lefel y dŵr yn dechrau gostwng bellach, mae’r heddlu’n rhybuddio gyrwyr i fod yn ofalus rhag dŵr ar ffyrdd.

Mae llifogydd yn afon Wear wedi achosi problemau hefyd yn ninas Durham a Chester-le-Street.

Wrth i wyliau haf yr ysgolion ddechrau, mae proffwydi tywydd yn rhagweld tywydd claear a chyfnewidiol ledled Prydain dros y dyddiau nesaf.

Llun: Yr afon Glen wedi gorlifo yn Northumberland heddiw. (Heddlu Northumbria/PA Wire)