Mae dau o gyn-weinidogion y llywodraeth yn beirniadu arweinyddiaeth y Prif Weindog Gordon Brown mewn cyfweliadau heddiw.

Rhybuddia’r cyn-ysgrifennydd Amddiffyn John Hutton fel Gordon Brown yn mynd “ar ei ben i drwbwl” oni fydd yn newid ei neges ar yr economi ac yn derbyn na all y wladwriaeth barhau i wario fel mae’n ei wneud ar hyn o bryd.

Dywed Mr Hutton fod ymgais y Prif Weinidog i ddarlunio’r etholiad sy’n dod fel dewis rhwng buddsoddi gan Lafur a thoriadau’r Ceidwadwyr yn “rhy amrwd” ac nad oedd yn gydnaws â dyhead yr etholwyr am “onestrwydd’ gan wleidyddion.

Wrth gyfaddef nad yw “bob amser wedi gweld llygad yn llygad â Gordon” dywed y cyn-weinidog:

“Dw i wedi dod i werthfawrogi ei lu o ddoniau a sgiliau; er hynny y drasiedi yw nad yw’r wlad yn gweld hynny.”

Yn y cyfamser, datgelodd cyn-weinidog arall, James Purnell, ei fod wedi ystyried ymddiswyddo tua chwe mis cyn iddo gerdded allan o’r Llywodraeth funudau wedi i’r bythau pleidleisio gau ddiwrnod etholiad Ewrop ar 4 Mehefin.

Dywed y cyd-ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau wrth The Guardian fod yn rhaid i Lafur roi’r gorau i deimlo’n hiraethus am anterth Llafur newydd yn yr 1990au, a symud ymlaen.

Mr Purnell oedd yr unig weinidog i alw’n uniongyrchol ar Mr Brown i roi’r gorau iddi, gan rybuddio y byddai iddo barhau fel Prif Weinidog yn gwneud buddugoliaeth i’r Torïaid yn fwy tebygol.

Dydd Llun, bydd Mr Purnell yn lansio prosiect tair-blynedd i adfywio’r Blaid Lafur, prosiect a fydd yn cynnwys polisïau fel cwmnïau di-elw i ddarparu addysg y wladwriaeth, refferendwm ar gynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiadau seneddol ac ymgais i berswadio’r etholwyr o fanteision mewnfudo.

Llun: PA Wire