Mae cefnogwyr Nelson Mandela ym mhob rhan o’r byd yn datlhu ei benblwydd yn 91 oed heddiw trwy gynnal diwrnod arbennig i anrhydeddu arwr byd-eang y frwydr yn erbyn apartheid.

Fe wnaeth cyn-arlywydd De Affrica bwyso ar bobl i gyflawni daioni heddiw, i nodi’r Diwrnod Mandela cyntaf.

Mae ei sefydliad elusen yn gobeithio y bydd yn dod yn ddigwyddiad blynyddol, gyda phobl ledled y byd yn cymryd rhan mewn prosiectau fel darllen i’r deillion, dosbarthu blancedi i’r digartref neu adnewyddu cartref i blant sy’n amddifad o achos Aids.

Mae prosiectau yn Ne Affrica’n cynnwys ymdrech i gasglu dillad i blant tlawd ac adnewyddu adeilad yng nghanol dinas Johannesburg i bobl sydd wedi cael eu gadael yn ddigartref gan dân.

Yn Efrog Newydd heddiw, mae Stevie Wonder, Alicia Keys ac Aretha Franklin ymysg sêr yn perfformio mewn cyngerdd Diwrnod Mandela, gyda’r elw’n mynd at sefydliad Aids Nelson Mandela.

Llun: Nelson Mandela’n dathlu ei benblwydd yn 91 oed gyda’i wraig Graca Machel heddiw (AP Photo/ Debbie Yazbek-Nelson Mandela Foundation)