Wedi i wyth o bobl gael eu lladd yno ddoe, mae ymchwilwyr wrthi heddiw’n ceisio adnabod pâr o hunan-fomwyr a ymosoddd ar y ddau westy moethus yn Jakarta, prifddinas Indonesia.
Cafodd 50 o bobl eraill eu hanafu yn y ffrwydradau, a chadarnhawyd bod o leiaf bedwar o’r rhai sydd wedi marw yn dramorwyr.
Roedd amheuon yn cynyddu bod y ffrwydradau wedi cael eu cynllwynio gan Noordin Top, gŵr o Malaysia sy’n arwain carfan sydd wedi torri’n rhydd o’r rhwydwaith terfysgol Jemaah Islamiyah sy’n gweithredu yn ne-ddwyrain Asia.
Dywedodd Nasir Abbas, un o gyn arweinwyr Jemaah Islamyah sydd bellach wedi troi at weithio gyda’r heddlu ar ymchwiliadau i ymosodiadau terfysgol ar Indonesia: “Dw i’n 200% sicr mai gwaith Noordin Top oedd hyn.”
Fe wnaeth hunan fomwyr yn cymryd arnynt eu bod yn westeion ymosod ar westyau’r Marriot a’r Ritz-Carlton yn Jakarta ddoe.
Cadarnhaodd un o ymchwilwyr yr heddlu mai Noordin oedd yr un o dan fwyaf o amheuaeth o fod y tu ôl i’r ymosodiadau.
Llun: Dau fachgen bach yn gosod blodau y tu allan i westy Ritz-Carlton yn Jakarta y bore yma. (AP Photo/Mark Baker)