Mae hynaf o blith cyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf wedi marw yn 113 oed.
Gwasanaethodd Henry Allingham gyda’r Royal Naval Air Servcie – rhagflaenydd y Llu Awyr – trwy gydol y Rhyfel Mawr a bu’n dyst i rai o’ii frwydrau mwyaf gwaedlyd gan gynnwys Jutland yn 1916 a Passchendale flwyddyn yn ddiweddarach.
Treuliodd ei flynyddoedd olaf mewn cartref gofal St Dunstan’s ger Brightron yn nwyrain Sussex, ac yn ddiweddar roedd wedi dathlu ei benblwydd yn 113 ar fwrdd llong y HMS President yn Llundain.
Talwyd teyrnged iddo gan y Prif Weinidog Gordon Brown:
“Cefais y fraint o gyfarfod Harry lawer o weithiau. Roedd yn gymeriad anhygoel, ac yn un o gynrychiolwyr olaf cenhedlaeth anhygoel.”
Gyda marwolaeth Mr Allingham, dim ond un o gyn-filwyr Prydain yn y Rhyfel Mawr sy’n dal yn fyw. Ac yntau’n 111 oied, Harry Patch bellach yw dyn hynaf Prydain.
Plentyn o oes Victoria
Pan aned Henry Allingham yn nwyrain Llundain ym mis Mehefin 1896, byddai’r Frenhines Victoria yn parhau ar ei gorsedd am bron i bum mlynedd arall.
Mae rhestr o rai o ddigwyddiadau’r byd yn ystod y cyfnod pan oedd Mr Allingham yn tyfu i fyny fel darllen trwy lyfr hanes:
3 oed – Cychwyn Rhyfel y Boer a fyddai’n parhau am dair blynedd yn Ne Affrica.
8 oed – Yr Entente Cordiale yn cael ei arwyddo rhwng Prydain a Ffrainc gan ddiweddu canrifoedd o ryfela rhwng y ddwy wlad.
12 oed – Y Gemau Olympaidd yn y White City yn Llundain
14 oed – Y Brenin Edward VII yn marw a George V yn cymryd ei le
16 oed – Y Titanic yn suddo
18 oed – Prydain yn cyhoeddi rhyfel ar yr Almaen a Henry Allingham yn ymuno â Llu Awyr y Llynges.
22 oed – Dychwelodd o’r rhyfel a dechrau gweithio i gwmni Ford, lle arhosodd tan ei ymddeoliad yn 1960.