Fe gollodd y Croesgadwyr Celtaidd eu gêm ddiweddara’ i dri chais yn y deng munud ola’.

Tan y rhuthr hwnnw, roedd y tîm o Ben-y-bont ar y blaen o 6-4 yn Hull ond roedd nifer o’r chwaraewyr wedi brifo.

Dim ond un cais – i Hull – oedd yn yr hanner cynta’ ond fe lwyddodd Jason Chan i ddod â’r gêm yn gyfartal ar ôl 50 munud a Quinn yn trosi i’w rhoi nhw ar y blaen.

Gyda’r dorf leol yn eu beirniadu’n llym ac yn cymeradwo’r Croesgadwyr, fe lwyddodd Hull i dynnu pethau at ei gilydd ac atal y Cymry rhag cael dwy fuddugoliaeth yn olynol.