Fe fydd rhaid i Forgannwg frwydro i achub eu gêm yn erbyn Swydd Caint yng Nghaerdydd.

Fe lwyddodd capten Kent, Robert Key, i gyrraedd ei ail gant ym mhelawd ola’r dydd ddoe wrth iddyn nhw gyrraedd 444 am 4 a mynd ar y blaen o 127.

Fe fyddan nhw’n edrych at gyfle i roi’r gorau iddi yn weddol gynnar er mwyn cael cyfle i fowlio at Forgannwg.

Roedd yna 96 hefyd i Martin van Jaarsveld a hanner cant i’r Cymro o wicedwr, Geraint Jones.

Roedd Key wedi mynd yn agos at golli ei wiced ddwywaith yn y pelawdau cynnar ddoe ond fe aeth yn ei flaen i gosbi’r bowlwyr.