Mae’r Llywodraeth yn Lloegr wedi rhybuddio y gallai rhai ysgolion aros ar gau ar ôl gwyliau’r haf os bydd cynnydd mawr mewn ffliw moch.
Does dim penderfyniadau wedi eu gwneud, medden nhw, ond fe fydd angen arweiniad clir cyn i’r tymor ail ddechrau.
Eu gobaith yw cadw ysgolion a chylchoedd meithrin ar agor – ar wahân i gyfnod cynnar y clefyd, mae hynny wedi digwydd hyd yn hyn.
Mae lefel y ffliw lawer uwch yn Lloegr nag yng Nghymru ac fe fydd gwasanaeth brys i drin y clefyd yn dod ar gael tros y We yn Lloegr yr wythnos nesa’.
Mae busnesau bychain hefyd wedi cael rhybudd i baratoi am effeithiau’r clefyd, gyda pheryg o staff yn aros gartref a chwymp yn yr economi – awgrymodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Rhydychen y bydd y ffliw yn achosi cwymp o 5% yng nghynnyrch economi gwledydd Prydain.
Geni babi cyn marw
Mae cyfanswm o 53 o bobol trwy wledydd Prydain yn cael gofal dwys mewn ysbytai oherwydd y ffliw ac mae mwy o wybodaeth wedi dod am rai a fu farw yn ystod y dyddiau diwetha’.
Roedd un wraig 39 oed wedi marw ddydd Mawrth ac wedi geni plentyn yn union cynt. Mae’r babi bellach yn cael gofal dwys.
Llun: Yr ysbyty lle bu farw’r wraig yn union ar ôl geni plentyn