Am y tro fe fydd pob llawdriniaeth frys ar yr ymennydd yn cael eu symud o Ysbyty Treforys yn Abertawe i Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Prinder doctoriaid sy’n cael y bai yn ôl adroddiadau ar y BBC er bod Gwseinidog Iechyd Cymru, Edwina Hart, wedi dweud yr wythnos hon fod y problemau hynny’n cael eu datrys.

Roedd hi hefyd wedi ymrwymo unwaith eto i gadw unedau niwrolawfeddygaeth ar agor yn y ddwy ddinas, a hynny ar ôl dadleuon mawr ynglŷn â’u dyfodol.

Mae prinder doctoriaid wedi effeithio ar unedau plant yn Abertawe hefyd ac, yn ôl y Gweinidog, mae problemau recriwtio yn gyffredin o fewn yh Gwasanaeth Iechyd.

Mae 36 o welyau yn yr Adran Niwrolawfeddygaeth yn Nhreforys, gyda chwech o’r rheiny yn welyau gofal dwys. Fel arfer, bydd pedwar o lawfeddygon yno, a deg o ddoctoriaid eraill.

Ar ben hynny, fe fydd clinigau’n cael eu cynnal mewn ysbytai ar draws gorllewin Cymru, yng Nghaerfyrddin, Pen-y-bont, Castell Nedd ac Aberystwyth.

Llun: Ysbyty Treforys