Mae mwy na 1,100 o bobl mewn perygl o golli eu swyddi gyda chwmni Allied Carpets wrth iddo gael ei roi yn nwylo’r derbynwyr.
Mae 51 o’i 217 o siopau wedi cael eu gwerthu ar unwaith mewn ymgais i arbed 400 o’r 1,500 o swyddi yn y cwmni.
Roedd gan y cwmni ddeg o siopau yng Nghymru a blaenoriaeth y gweinyddwyr bellach yw ceisio gwerthu’r gweddill.
Mae’r sipau i gyd yn parhau’n agored ac mae cwsmeriaid wedi cael addewid fod pob ernes yn saff ac fe fydd gweithwyr yn cael eu talu fel arfer.
Y dirwasgiad ariannol a’r amodau masnachu anodd sy’n cael y bai am fethiant y cwmni.