Mae’r cyn glerigwr ac arlywydd dylanwadol Akbar Hashemi Rafsanjani wedi herio arweinydd crefyddol Iran dros honiadau o dwyll yn etholiadau arlywyddol y wlad.
Yn ei araith gyntaf adeg gweddîau dydd Gwener ers i’r trais ddechrau, dywedodd wrth Ayatolla Ali Khameni fod helynt yr etholiad wedi “rhannu clerigwyr.”
Roedd cannoedd o wrthwynebwyr y llywodraeth wedi ymgynnull i wrando arno ym Mhrifysgol Tehran ac fe fu protestiadau yn y strydoedd wedyn.
Mae Akbar Hashemi Rafsanjani yn gwrthwynebu’r arlywydd presennol Mahmound Ahmadinejad ac yn cefnogi ei brif gystadleuydd Mir Hossein Mousavi, a oedd yn y gynulleidfa.
Fel rheol, fe fydd areithiau gweddîau Gwener ym Mhrifysgol Terhan yn cefnogi’r drefn wleidyddol ac yn hybu teyrngarwch yn hytrach na herio.
“Cryn amheuaeth”
Yn ei bregeth byw, ceryddodd Rafsanjani glerigwyr am beidio â gwrando ar farn a chwynion pobol y wlad am yr etholiad.
“Mae cryn amheuaeth am ganlyniadau’r etholiad,” meddai. “Mae angen i ni weithio i ddiddymu’r amheuaeth hwnnw.”
O fewn ergyd carreg i’r Brifysgol, roedd swyddogion heddlu a milisia Basiji (sy’n ffafriol o’r llywodraeth) yn tanio nwy dagrau ar brotestwyr.
Roedd y protestwyr yn gweiddi sloganau fel “marwolaeth i’r unben” ac yn galw ar y arlywydd presennol i ymddiswyddo. Cafodd dwsinau eu harestio.
Llun: Protestio yn y strydoedd (AP Photo)