Mae dyn a fu’n twyllo ar ocsiwn ar y rhyngrwyd wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd a hanner heddiw, ar ôl twyllo prynwyr o filoedd o bunnau.
Defnyddiodd Philip Shortman, 22, o Gwmbran wefan e-bay i dwyllo defnyddiwyr o £7,836.22 a phlediodd yn euog i 15 cyfrif o dwyll.
Roedd Philip Shortman wedi bod yn gwerthu tocynnau rygbi’r chwe gwlad ar y We – roedd pobol yn anfon arian ac wedyn yn derbyn amlen wag, a oedd wedi ei rhwygo i esgus bod rhywun wedi dwyn ohoni.
Newydd ddod allan o’r carchar yr oedd Shortman, a oedd wedi ei gael yn euog o dwyll ar y rhyngrwyd pan oedd yn 18 oed.