Mae asiant chwaraewr canol cae Cymru a Chaerlŷr, Andy King, wedi gwadu bod y Cymro am arwyddo i Aston Villa.
Dywedodd Dean Sheehan bod y stori yn un ffug, a bod Caerlŷr heb dderbyn yr un cynnig gan y clwb o’r Uwch Gynghrair.
Roedd son bod Aston Villa yn barod i gynnig £2.5m am King a wnaeth ennill ei gap cyntaf i Gymru ym mis Mai.
Cafodd dymor llwyddiannus iawn gyda Chaerlŷr y tymor diwethaf, gan eu helpu i ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth.
“Mae Andy wedi ymgartrefu yng Nghaerlŷr. Mae’n caru’r clwb a’r cefnogwyr, ac mae’n edrych ‘mlaen i’r tymor newydd”, meddai Dean Sheehan, wrth siarad gyda Sky Sports.