Mae Pencampwriaeth y Tair Gwlad yn cychwyn yfory gyda Seland Newydd yn croesawu Awstralia i Eden Park.
Dyw’r Crysau Duon heb golli yn erbyn Awstralia yn Eden Park ers 1986, ond mae nifer yn credu y bydd y disgwyl yn dod i ben yfory.
Dim ond un tîm sydd wedi curo Seland Newydd yno ers hynny, sef Ffrainc yn 1994. Ond ar ôl blynyddoedd o fod y tîm gorau yn y byd mae pethau’n dechrau edrych yn dywyllach ar Grysau Duon Graham Henry.
Mae’r tîm mewn cyfnod o newid mawr, gyda nifer o chwaraewyr wedi ymddeol, neu yn agos at wneud. Y broblem i Seland Newydd yw nad yw’r cnwd nesaf o’r un safon.
Mae Awstralia a De Affrica wedi profi eu pŵer dros yr wythnosau diwethaf gyda buddugoliaethau da iawn yn erbyn Ffrainc a’r Llewod.
Ond roedd gemau Seland Newydd yn erbyn Ffrainc a’r Eidal yn gwbl ddifflach.
Stephen Donald fydd yn gwisgo’r crys rhif 10 yfory a does ganddo fo, na’i eilydd Luke McAlister, ddim yr un gallu â Daniel Carter i reoli gêm.
Fel canlyniad does dim sicrwydd pwy yw’r ffefryn i godi’r cwpan pan ddaw’r gystadleuaeth i ben ddiwedd fis Medi.
Barn y capteiniaid
Mae capten y Crysau Duon, Richie McCaw, yn credu y bydd rhaid i’r tîm fanteisio ar bob cyfle i gael gobaith o gipio’r gêm.
Dywedodd bod gemau rhwng Seland Newydd ac Awstralia yn rhai agos fel arfer, a bydd angen sgorio’r pwyntiau bob cyfle a ddaw.
Yn ôl capten Awstralia, Stirling Mortlock, bydd ei dîm yn brwydro’n galed i sicrhau buddugoliaeth.
Fe gollodd Awstralia 39-10 yn Eden Park y llynedd, ond mae Mortlock yn ffyddiog o’r gallu sydd yn y garfan. Mae’n credu bod y tîm wedi gwella llawer yn ystod y 12 mis diwethaf.
Carfan Seland Newydd
15. Malili Muliaina,14. Cory Jane, 13. Conrad Smith, 12. Ma’a Nonu, 11. Sitiveni Sivivatu, 10. Stephen Donald, 9. Jimmy Cowan, 1. Tony Woodcock, 2. Andrew Hore, 3.Neemia Tialata, 4. Brad Thorn, 5. Issac Ross, 6. Jerome Kaino, 7. Richie McCaw, 8. Rodney So’oialo
Eilyddion:
16. Jason Eaton, 17. Keven Mealamu, 18. Kieran Read, 19. Owen Franks, 20. Josevata Rokocoko, 21. Luke McAlister, 22.Piri Weepu
Carfan Awstralia
15. Adam Ashley-Cooper, 14. Lachie Turner, 13. Stirling Mortlock, 12. Berrick Barnes, 11. Drew Mitchell, 10. Matt Giteau, 9. Luke Burgess, 1. Benn Robinson, 2. Stephen Moore, 3. Al Baxter, 4. James Horwill, 5. Nathan Sharpe, 6. Richard Brown, 7. George Smith, 8. Wycliff Palu
Eilyddion:
16. Tatafu Polota-Nau, 17. Ben Alexander, 18. Dean Mumm, 19. Phil Waugh, 20. David Pocock, 21. Will Genia, 22. James O’Connor.