Mae’r golffiwr o Gymru, Rhys Davies, wedi cael Pencampwriaeth Agored digon siomedig ar ôl gorffen ei ail rownd saith ergyd dros y safon yn Turnberry.

Gorffennodd Davies ei rownd gyntaf dair ergyd dros y safon yn yr Alban ddoe.

Gwaethygu wnaeth pethau heddiw – gyda rownd o bedair ergyd dros y safon.

Ar ôl gorffen y rowndiau agoriadol mae’r Cymro wedi gorffen yn safle 121.

Mae ei sgôr yn golygu na fydd Rhys Davies yn cymryd rhan yn y ddwy rownd olaf ar ôl methu cyrraedd y safon.