Mae Dave Jones wedi dweud ei fod am arwyddo tri chwaraewr newydd cyn i’r tymor newydd gychwyn.

Pe bai rheolwr yr Adar Glas yn llwyddo i wneud hynny, mae’n credu y byddai ganddo garfan gryf iawn i gystadlu am ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Fe wnaeth Dave Jones herio cadeirydd y clwb, Peter Ridsdale, i fod yn ddewr a’i gefnogi i sicrhau’r chwaraewyr newydd.

Mae’r clwb eisoes wedi arwyddo David Marshall, Mark Hudson, Anthony Gerrard, Paul Quinn, a Michael Chopra yr haf ‘ma.

Carfan cryf

Ond mae Caerdydd wedi colli’r amddiffynnwyr Roger Johnson a Darren Purse. Dywedodd y rheolwr y bydd rhaid i Gaerdydd roi stop ar werthu eu chwaraewyr gorau bob haf.

Nododd bod hyn yn ei gwneud hi’n anodd iddo adeiladu ei garfan.

“Byddai dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn ein galluogi i gadw ein chwaraewyr gorau,” meddai.

Ond mae’n debyg y bydd rhaid i Dave Jones frwydro unwaith eto i gadw un o sêr y tîm.

Mae gan Hull ddiddordeb yn yr ymosodwr, Ross McCormack, ar ôl rhoi’r gorau i arwyddo Darryl Murphy o Sunderland.

Mae’r chwaraewr o’r Alban eisoes wedi dweud y byddai diddordeb ganddo i chwarae yn yr Uwch Gynghrair pe bai’n cael y cyfle.