Mae protestwyr lleol sy’n gwrthwynebu datblygu gorsaf ynni £400 miliwn yn beirniadu Asiantaeth yr Amgylchedd yn llym heddiw am gefnogi’r cynlluniau.

Y bwriad yw i losgi sglodion pren (chip wood) yn yr orsaf ynni fwyaf o’i math yn y byd, yn nociau Port Talbot.

Mae’r grŵp protest lleol ‘Port Talbot Residents Against Power Stations’ (PT-Raps) yn gwrthwynebu’r cynlluniau’n chwyrn.

“Na ddefnyddiwyd y feddalwedd yn gywir”

Maen nhw wedi datgan na chafodd y feddalwedd a ddefnyddiwyd i asesu effaith llygredd y datblygiad ar yr amgylchedd ei ddefnyddio’n iawn gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Gan nad yw’r tirwedd ym Mhort Talbot yn fflat mae’r grŵp protest lleol yn dadlau nad yw’r feddalwedd mewn gwirionedd yn gallu rhagfynegi effeithiau cymhleth y cynlluniau ar yr ardal yn “ddigon manwl”.

Ond, er gwaethaf dadl y protestwyr lleol, mae cynrychiolydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd wedi datgan eu bod wedi “asesu’r sefyllfa’n fanwl” yn ogystal ag “ymgynghori â grwpiau lleol a’r gymuned ehangach”.

Dim ond ar ôl gwneud hyn, yn ôl yr Asiantaeth, y daethant i’r canlyniad terfynol “na fyddai’r orsaf ynni’n cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd.”

Mae Cyngor Sir Castell Nedd a gefnogodd y cynlluniau’n wreiddiol yn awr yn gwrthwynebu’r cynllun.

(Llun: Port Talbot)