Ni fydd cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer adnewyddu arfau niwclear llongau tanfor Prydain –Trident – yn cael eu cyhoeddi tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Roedd disgwyl penderfyniad gan y Llywodraeth ynglŷn ag adnewyddu’r arfau ym mis Medi eleni, ond mae’n debyg y bydd rhaid aros nawr tan ar ôl 3 Mehefin 2010.
Fe fyddai’r penderfyniad wedi dechrau proses dechnegol o ddatblygu arf ataliol newydd erbyn tua 2020, pan fydd defnydd Prydain o Trident yn dod i ben.
Yn ôl swyddogion y Llywodraeth, mae’r penderfyniad, ynghyd â’r cyhoeddiad ynglŷn â faint o arian sydd ar gael ar gyfer y datblygiad, wedi cael ei ohirio tan ar ôl cynhadledd ryngwladol ar y cytundeb atal ehangu arfau niwclear fis Mai nesaf.
Mae’r gynhadledd yn digwydd ychydig amser cyn y dyddiad olaf posib y gall Gordon Brown alw Etholiad Cyffredinol.