Mae strydoedd yng nghanol tref Caernarfon wedi cau y prynhawn yma ar ôl i gorff gael ei ddarganfod mewn maes parcio ar ffordd Ffordd Tan-y-bont y dref.
Mae heddlu niferus yn rhwystro cerddwyr a cheir rhag mynd i lawr at y maes parcio y tu ôl i’r Maes.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran yr heddlu iddyn nhw dderbyn galwad ychydig wedi 1pm heddiw ar ôl i aelod o’r cyhoedd ddarganfod corff yno.
Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r digwyddiad.
Llun: Gwyddonwyr fforensig yn y maes parcio y tu ol i’ r Maes yng Nghaernarfon yn ymchwilio i achos y farwolaeth.