Cafodd dynes oedd yn euog o reoli puteindai a thwyll ariannol y llynedd ei gorchymyn i dalu £2.6 miliwn yn ôl, ddoe.
Yn dilyn ymchwiliad heddlu yn 2007, fe wnaeth pump o fenywod bledio’n euog i reoli a helpu i redeg puteindai mewn pedwar adeilad gwahanol yn ardal Caerdydd a Swindon.
Yn un o’r puteindai hynny, Twice as Nice (A Touch of Class gynt), y gwnaeth y cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Phil Williams, farw o drawiad ar y galon yn mis Mehefin 2004 yn 64 oed.
Un o’r menywod gafwyd yn euog o reoli’r puteindai oedd Diana Jones o ardal Caerfyrddin. Ym mis Ionawr 2008 cafodd ddedfryd o 12 mis yn y carchar, wedi’i ohirio.
Bygythiad carchar
Mewn gwrandawiad arall yn Chwefror 2009 dyfarnwyd bod Diana Jones wedi elwa’n anghyfreithlon o £4 miliwn o bunnau.
Ac yn Llys y Goron Merthyr ddoe, cafodd orchymyn llys i dalu £2.6 miliwn yn ôl o fewn chwe mis.
Doedd Diana Jones ddim yn bresennol yn y gwrandawiad.
Os na fydd Diana Jones yn medru talu’r swm yn ôl o fewn 6 mis, bydd rhaid iddi fynd i’r carchar am 4 mlynedd. Ond, bydd yn rhaid iddi dalu’r swm o £2.6 miliwn hefyd.