Ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi lleoliadau ar gyfer datblygu pedair tref “eco gyfeillgar” ddoe, mae ofn y bydd y cynllun yn difrodi yn hytrach nac amddiffyn yr amgylchedd.
Cyhoeddodd y Llywodraeth ddoe y byddai’r trefi arfaethedig – 5,000 o dai yr un – yn cael eu datblygu mewn canolfan RAF yn Norwich, Norfolk; mewn hen farics milwrol yn nwyrain Hampshire; mewn hen chwarel glai yn agos i St Austell yng Nghernyw, ac mewn safle yn ymyl Bicester yn sir Rhydychen.
Mae Gordon Brown wedi canmol y cynllun, ond yn ôl papur newydd y Daily Telegraph, mae dogfennau gynhyrchwyd gan y Llywodraeth eu hunain yn codi amheuaeth ynglŷn â’r difrod amgylcheddol sy’n mynd i gael ei achosi wrth adeiladu’r trefi.
Yn ôl y papur, mae peryg y bydd datblygu systemau dŵr a charthffosiaeth ar gyfer y trefi, yn ogystal ag adeiladu ffyrdd newydd, yn cael effaith ddrwg ar yr amgylchedd.
Llifogydd
Yn ogystal, mae gwrthwynebwyr i’r cynllun yn honni y byddai datblygiadau o’r fath yn cael effaith andwyol ar gefn gwlad, gan y byddai trefi newydd yn golygu mwy o draffig, yn tarfu ar fywyd gwyllt ac yn cynyddu’r perygl o lifogydd mewn rhai ardaloedd.
Y cam nesaf i gynlluniau’r Llywodraeth yw ceisio cael caniatâd cynllunio, ac os yn llwyddiannus, dyma fydd y datblygiad “gwyrdd” cyntaf o’i fath yn y byd, sydd wedi cael ei ddatblygu gan lywodraeth.
Gall y pedair tref fod wedi cael eu hadeiladu erbyn 2016, a chwe thref arall debyg wedi eu codi erbyn 2020.