Mae Enzo Maccarinelli wedi dweud nad oes drwgdeimlad rhyngddo ef a’r teulu Calzaghe, wrth iddo baratoi am ei ornest gyntaf gyda’i hyfforddwr newydd.
Ar ôl colli ei dwy o’i dair gornest ddiwethaf, ym mis Mawrth penderfynodd Maccarinelli adael ei hyfforddwr Enzo Calzaghe, tad Joe, er mwyn cydweithio gyda Karl Ince.
Wrth adael goruchwyliaeth Enzo Calzaghe, dywedodd Maccarinelli: “Roedd yn gyfeillgar, doedd dim drwgdeimlad o gwbl. Rwy’n dal yn ffrindiau da gyda Joe ac yn siarad gydag Enzo weithiau. Roedd yn rhywbeth roedd yn rhaid i mi wneud er mwyn cael ail wynt.”
Ail ennill ei goron
Mae Maccarinelli yn wynebu’r gŵr o Rwsia, Denis Lebedev, ym Manceinion nos yfory.
Dywedodd y bocsiwr o Abertawe mai dyma ei gyfle olaf i ail gydio yn ei yrfa.
Roedd Maccarinelli wedi colli ei goron pwysau cruiser rhyng-gyfandirol y WBO dros flwyddyn yn ôl i’r Sais, David Haye.
Mae’n debyg y bydd pwy bynnag bydd yn ennill yr ornest nos yfory bydd yn cael cyfle i geisio cipio un o brif deitlau’r byd.
‘Ffyddiog’
Ond bydd yn dasg anodd i’r Cymro gyda Lebedev wedi ennill pob un o’i 17 gornest.
Er hyn mae ei hyfforddwr newydd, Karl Ince, yn ffyddiog bod gan Maccarinelli y gallu i guro’i wrthwynebwr:
“Rwyf am i Enzo ddangos ei allu. Mae Lebedev yn dda yn ymosod, felly rydym wedi gweithio ar yr amddiffyn. Rwy’n ffyddiog bod gan Enzo y gallu i gyrraedd y brig unwaith eto.”
Nathan Cleverly
Bydd Cymro arall yn ymladd nos Sadwrn hefyd, sef pencampwr is-bwysau trwm y Gymanwlad, Nathan Cleverly.
Mae Cleverly yn wynebu Danny McIntosh yn Llundain am deitl pencampwr Prydain.
Mae’r Cymro eisoes wedi dweud ei fod am gyfle i gipio teitl y byd a bydd buddugoliaeth nos yfory yn ei gymryd cam yn nes at ei freuddwyd.
Pan nad yw Cleverly yn bocsio, mae’n astudio mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd.