Mae dau weithiwr – un o Brydain a’r llall o Ffrainc – wedi cael eu lladd wrth i do llwyfan a oedd yn cael ei adeiladu ar gyfer cyngerdd gan Madonna ddymchwel yn ninas Marseille.

Bu farw’r gweithiwr o Brydain, Charles Prow, 23 oed, heddiw o’i anafiadau, ac roedd y gweithiwr o Ffrainc wedi cael ei ladd ar unwaith pan ddisgynnodd y to ar amryw o weithwyr ddoe.

Cafodd wyth o rai eraill eu hanafu, gan gynnwys un yn ddifrifol.

Yn sgil y ddamwain, mae Madonna wedi canslo eu pherfformiad a oedd i fod i gael ei gynnal ddydd Sul yn y ddinas. Dywedodd bod y newyddion wedi peri loes calon iddi.

Nid yw’n eglur beth oedd achos y cwymp yn y to. Dywed yr heddlu y gallai nam mewn winsh fod yn gyfrifol.