Mae’r Pab wedi torri arddwrn ei law dde wrth syrthio yn ystod ei wyliau yn yr Alpau.
“Fe wnaeth y Pab lithro a brifo, ond nid yw ei anafiadau’n ymddangos yn ddifrifol,” meddai llefarydd ar ran y Vatican.
Dywedodd llefarydd ar ran ysbyty Umberto Parini yn Aosta fod meddygon wedi cymryd pelydr X o arddwrn llaw dde’r Pab ac wedi cael hyd i doriad bychan.
“Bydd y Pab yn cael ei gadw am ychydig oriau wrth i’r meddygon drin y toriad, a bydd yn aros wedyn i gadw golwg arno,” meddai’r llefarydd ar ran yr ysbyty.
Mae’r Pab Benedict XVI yn 82 oed ac wedi bod yn iach ers iddo ddod yn Bab ychydig dros bedair blynedd yn ôl.