Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi bod milwr arall o Brydain wedi marw yn Afghanistan.
Mae 16 milwr Prydeinig wedi eu lladd yn Afghanistan y mis yma, nifer fel rhan o Ymgyrch Crafanc y Panther, gyda’r nod o ddiogelu’r wlad cyn yr etholiadau fis nesaf.
Bu farw’r milwr o 2il Fataliwn Y Reifflau ddoe, mewn ffrwydrad yn Rhanbarth Helmand tra roedd ar batrôl.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ond does dim manylion wedi eu cyhoeddi am y milwr hyd yma.
“Fe wnaeth roi ei fywyd dros ei wlad ac i bobl Afghanistan,” meddai’r Is-gyrnol, Nick Richardson.
“Rydym yn hiraethu ar ei ôl ac am ymuno gyda’i deulu a’i ffrindiau i alaru ei farwolaeth. Byddwn yn ei gofio am byth.”