Mae gofodwyr y wennol ofod Endeavour wedi bod yn archwilio’u llong am ddifrod ar ôl i Nasa fethu â deall pam fod rhan o’r tanc tanwydd wedi colli cymaint o ddeunydd gludiog wrth godi i’r awyr.

“Mae’n dipyn o ddirgelwch,” meddai rheolwr rhaglen y wennol John Shannon. “Dydyn ni ddim yn bryderus am y daith hon, ond mae angen inni ddeall beth oedd yn mynd ymlaen erbyn y daith nesaf.”

Gwnaed y gwaith archwilio wrth i Endeavour wibio tuag at yr orsaf ofod ryngwladol.

Heddiw oedd y diwrnod llawn cyntaf mewn orbit i’r saith gofodwr, 40 mlynedd union i’r diwrnod y glaniodd dyn ar y lleuad am y tro cyntaf.

‘Dim perygl’

Mewn cynhadledd newyddion, dywedodd Mr Shannon fod yr haen denau o ddeunydd gludiog insiwleiddio ar ganol y tanc wedi plicio i ffwrdd wrth i Endeavour danio i’r gofod ddydd Mercher. Roedd paent gwyrdd ar fetel y tanc yn y golwg mewn mannau.

Yn ffodus, meddai, roedd y plicio wedi digwydd dipyn ar ôl y ddau funud cyntaf allweddol yn y daith ac nid oedd yn achosi unrhyw berygl i Endeavour.

Trwy brynhawn ddoe, bu’r saith aelod o griw Endeavour yn defnyddio trawst 100 troedfedd a laser ar ei flaen i archwilio tarian wres y llong ofod, sef y drefn arferol ers i deithiau gwennol ailgychwyn ar ôl damwain Columbia.

Ond nid oedd y trawst yn gallu cyrraedd pobman, ac roedd Nasa am ddibynnu ar arolwg ffotograffaidd cyflawn o’r wennol i lenwi’r bylchau yn eu gwybodaeth. Disgwylir y bydd yn cymryd sawl diwrnod i archwilio’r data.

Bydd Endeavour yn aros wedi ei hangori yn yr orsaf ofod am bron i bythefnos. Yn ystod yr amser yma bydd y gofodwyr yn gosod darnau ar gyfer labordy gofod, a bwriedir pum taith gerdded yn y gofod.