Mae arlywydd alltud Honduras, Manuel Zelya, ar ei ffordd yn ôl i’w wlad heddiw i sefydlu pencadlys llywodraeth newydd mewn “brwydr olaf” yn erbyn arweinwyr y coup militaraidd.
Dywed ei weinidog tramor Patricia Rodas ei fod “ar ei ffordd yn ôl”, ond gwrthododd â dweud sut na pha bryd yr oedd yn bwriadu mynd i mewn i Honduras.
Nid yw’n eglur yn lle mae Manuel Zelaya ar hyn o bryd ac mae’r arweinwyr militaraidd a’i halltudiodd yn dweud y byddant yn ei arestio os bydd yn dychwelyd.
“Bydd ein harlywydd yn Honduras ryw bryd. Mae eisoes ar ei ffordd,” meddai Patricia Rodas wrth ohebwyr yn La Paz, Bolivia.
“Diben sefydlu pencadlys arall o lywodraeth fydd cyfarwyddo’r frwydr olaf yn erbyn arweinwyr y coup a ddisodlodd Mr Zelaya,” meddai.
Pan welwyd Manuel Zelaya ddiwethaf yn gyhoeddus dywedodd fod gan bobl Honduras hawl gyfansoddiadol i gychwyn gwrthryfel yn erbyn llywodraeth anghyfreithlon.