Dangosodd capten Lloegr, Andrew Strauss, ei allu fel batiwr wrth sgorio ymhell dros gant o rediadau ar ddiwrnod cyntaf yr ail brawf yn erbyn Awstralia.
Er i’r capten daro 161 heb fod allan, doedd safon y batio ddim cystal gan aelodau eraill y tîm wrth i Loegr orffen y dydd cyntaf ar 364-6.
Fe gyfrannodd Alastair Cook 95 o rediadau hefyd.
Siomedig oedd batio Ravi Bopara (18), Kevin Pietersen (32), Paul Collingwood (16), Matthew Prior (8) ac Andrew Flintoff (4), wrth i fowlwyr Awstralia gipio pedair wiced yn sesiwn olaf y dydd i sicrhau nad oedd Lloegr yn rheoli’r gêm yn llwyr.
Mae Strauss yn credu bod yn rhaid i Loegr gyrraedd rhwng 450 a 500 o rediadau ar yr ail ddiwrnod, er mwyn gallu mynd mlaen i ennill y gêm.