Fe wnaeth y glaw gyfyngu’r chwarae i 20 pelawd ar ail ddiwrnod y gêm rhwng Morgannwg a Caint yng Nghaerdydd.

Ychwanegodd Morgannwg 22 o rediadau i’w cyfanswm, er mwyn cyrraedd 317.

Dechreuodd Caint ei batiad cyntaf ond cipiodd bowliwr Morgannwg, James Harris, wiced Joe Denly ar ôl un rhediad yn unig.

Roedd Caint wedi cyrraedd 52-1 cyn i’r glaw ddod â’r gêm i ben am y dydd.