Ym mhortreadau olew Luke Barker, mae’r wynebau yn agos atoch chi a lliw’r croen fel petai’n tasgu ar y cynfas.
“Dw i eisiau i bobol weld sut mae fy narluniau wedi’u ffurfio,” meddai’r artist 32 oed, sy’n wreiddiol o Rydychen ond yn byw yng Nghaerdydd ers gadael y coleg celf yno naw mlynedd nôl.
Nawr mae’n cynnal ei arddangosfa gynta’ erioed yn Oriel Washington ym Mhenarth.
Ymhlith yr arlunwyr sydd wedi dylanwadu arno mae Nathan Ford, Jenny Saville a Francis Bacon a’r Gymraes o Langadfan, Shani Rhys James.
“Dw i’n hoffi elfen emosiynol ei gwaith hi,” meddai Luke Barker. “Dw i’n hoffi mynegiant ei chymeriadau hi. Maen nhw’n eitha’ syber, a digalon i raddau.
“Dw innau yn hoffi darlunio pobol ag elfen o arwahanrwydd yn perthyn iddyn nhw. Mae hi wedi dylanwadu ar sut alla’ i wneud hynny.
“Bydda’ i’n dewis pobol sy’n fy nenu ar unwaith,” meddai. “Os ydw i eisiau paentio rhywun, mi fydda i’n gwybod yn yr eiliadau cyntaf ar ôl cyfarfod â nhw… o siâp yr wyneb a’r trwyn, a sut mae’n cyferbynnu â rhannau eraill.”
Un o’r wynebau oedd yn ei ddenu oedd y cyfarwyddwr ffilm, Richard Attenborough. Paentiodd lun ohono ar ôl gweld ei ffotograff mewn atodiad papur newydd.
“Mae ganddo wyneb diddorol,” meddai. “Mae rhyw arlliw cynnes i’w wyneb oedd yn fy nenu. A dw i’n hoffi darlunio pobol â’u cegau yn agored. Dw i’n ceisio disgrifio, y gorau alla i, deimladau y corff a’r croen. Mae pob marc wedi’i bwyso a mesur wrth i mi baentio.”
Cewch ddarllen mwy yn Golwg, Gorffennaf 16