Mae llifogydd trwm wedi taro de orllewin Cymru, gan achosi difrod i dai a busnesau.

Yn ôl Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae adroddiadau o lifogydd ar draws y de orllewin, gyda Llanelli, Trimsaran, Gorseinon a Rhydaman wedi diodde’.

Yn Llanelli, mae o leiaf wyth o dai wedi eu difrodi gan lifogydd.

Yn ogystal, mae gwesty’r Half Way House yn y dref wedi cael difrod, wrth i dros dair troedfedd o ddŵr lifo i mewn i’r adeilad.

‘Ton 20 troedfedd’

Yn ôl llefarydd ar ran y gwesty, mae pedwar cerbyd tân yno yn pwmpio dŵr allan.

“Fe wnaethon ni golli gwerth £10,000 o stoc yn ystod y llifogydd diwethaf, a ry’n ni’n disgwyl y bydd ail addurno yn costio miloedd y tro yma hefyd,” meddai.

Dywedodd ei fod yn disgwyl rhagor o ddifrod er bod y glaw wedi lleddfu, gan fod dŵr o’r mynyddoedd yn llifo lawr drwy’r dyffrynnoedd ar ôl cawodydd trwm iawn.

Fel arfer adeg llifogydd yn yr ardal, meddai, mae’r dŵr yn taro’r bont sydd ar y stryd gan achosi “ton o tua 20 troedfedd,” ac yn glanio mewn ”llyn” ar y stryd.

Dywedodd fod y gwesty wedi arfer efo’r math yma o lifogydd, ac mae canllawiau wedi eu dilyn er mwyn amddiffyn yr adeilad.

Ym mhentref Reynoldston ym mhenrhyn Gŵyr, mae dŵr wedi dymchwel clawdd, gan achosi difrod i nifer o dai.