Mae Manchester United wedi penderfynu peidio teithio i Indonesia ar gyfer cymal nesaf eu taith bêl-droed yn Asia, ar ôl i ddwy fom ladd naw o bobol mewn gwestai – gan gynnwys un lle’r oedd y tîm yn bwriadu aros.
Roedd tîm Manchester United fod i hedfan i brifddinas Indonesia, Jakarta, ‘fory, ac yn bwriadu aros yng ngwesty’r Ritz-Carlton lle digwyddodd un o’r ffrwydradau.
Yn dilyn y ffrwydrad, cyhoeddodd y clwb ddatganiad yn dweud fod y tîm wedi derbyn cyngor, ac wedi canslo eu hymweliad ag Indonesia.
Roedd y gêm yn mynd i gael ei chwarae nos Lun nesaf yn erbyn tîm Malaysia XI, tîm o chwaraewyr gorau prif gynghrair Indonesia ac roedd 100,000 wedi prynu tocynnau i’r gêm.
Mae Man Utd. yn Kuala Lumpur ar hyn o bryd, a cham nesaf y daith fydd De Korea.