Wrth i glwb Dinas Bangor golli o 2-0 yng Nghwpan Europa yn y Ffindir, maen nhw hefyd wedi wynebu dau eitha’ o ran arian.

Ar yr un diwrnod ag yr oedd sôn am un o ddynion cyfoethoca’r byd yn rhoi arian iddyn nhw, roedden nhw’n gorfod apelio am gymorth cefnogwyr i roi seddi yn eu stadiwm.

Echdoe roedd y Sheikh Hazza bin Sultan bin Zayed Al-Nahyan yn y ddinas i ddoe i dderbyn ei radd doethuriaeth mewn economeg gan y Brifysgol.

Mae’n digwydd bod yn nai i’r dyn sydd wedi rhoi cannoedd o filiynau i glwb Manchester City ac mae gan ei deulu ffortiwn o tua £500 biliwn.

Dywedodd Yr Athro Phil Molyneux, Pennaeth Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor, a chefnogwr i glwb y ddinas ei fod yn ceisio perswadio’r cyn-fyfyriwr i fuddsoddi yn y tîm.

Help!

Yr un pryd, fe ddaeth hi’n amlwg pam fod angen buddsoddiad wrth i’r clwb apelio am gymorth cefnogwyr i gael seddi newydd i’w cae.

Mae Bangor wedi prynu 1,000 o seddi o Barc Ninian, Caerdydd, ond mae angen help gan gefnogwyr i gasglu a llwytho’r seddau yng Nghaerdydd a’u dadlwytho yn ôl ym Mangor.