Dyw cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Cymru a Lloegr ddim yn cael y flaenoriaeth sydd ei angen, meddai Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.
Mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, mae’n dweud fod ffyrdd pwysig rhwng y ddwy wlad yn cael eu hesgeuluso ac mae’n rhoi’r bai penna’ ar y Llywodraeth yn Llundain.
Yn ôl yr adroddiad, mae Adran Drafnidiaeth y Deyrnas Unedig wedi methu â chydlynu polisïau trafnidiaeth rhwng y Cynulliad ac awdurdodau lleol a rhanbarthol yn Lloegr.
Yn ôl yr adroddiad, mae’n “annerbyniol” fod yr Adran Drafnidiaeth yn gadael i awdurdodau lleol a rhanbarthol Lloegr wneud y penderfyniadau, er fod cyfyngiadau mawr ar eu harian.
O ganlyniad, am nad ydyn nhw’n flaenoriaeth i’r rheiny, mae’r adroddiad yn honni nad yw cysylltiadau ffordd pwysig rhwng Cymru a Lloegr yn cael yr arian angenrheidiol i’w gwella.
Trydaneiddio lein y De
Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw am drydaneiddio’r lein reilffordd rhwng Abertawe a Llundain gan fynnu fod cysylltiadau trên rhwng Cymru a Lloegr yn rhy ddrud a thrênau yn rhy brin.
Byddai cynnig mwy o drênau gyda’r nos, meddai, yn helpu busnesau ac awdurdodau lleol i hyrwyddo’u hardaloedd ar gyfer ymwelwyr, yn ogystal â gweithgareddau adloniant a chwaraeon.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth y bydd £15 biliwn yn cael ei fuddsoddi ar rwydwaith trênau Cymru a Lloegr yn hystod y pum mlynedd nesaf a bod trafodaethau ar droed ynglŷn â thrydaneiddio lein y De.
Ei gwneud hi’n haws i hedfan
Dyw cysylltiadau ffyrdd ddim yn ddigon da chwaith rhwng gogledd Cymru a meysydd awyr gogledd Lloegr, yn ôl yr adroddiad, ac yn y De, fe fyddai tagfeydd ceir ar yr M4 yn cael eu lleddfu pe bai maes awyr Caerdydd yn cynnig awyrennau i fwy o lefydd.
Echdoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad na fydden nhw’n gwario ar ffordd ychwanegol i leddfu problemau traffig ar yr M4 yn ardal Casnewydd.