Mae pobol sy’n amau fod ganddyn nhw ffliw moch yn dal i fynd i adrannau brys mewn ysbytai, meddai Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Roedd mwy a mwy o adroddiadau am gleifion yn gwneud hynny, yn ôl Dr Tony Jewell, er eu bod wedi cael eu rhybuddio i beidio.

Fe ddylen nhw aros gartre’ a chysylltu gyda llinell ffôn neu wefan y Gwasanaeth Iechyd, meddai, gan rybuddio fod peryg o lenwi’r adrannau brys ac atal triniaeth i gleifion mwy difrifol.

Ar hyn o bryd, mae’r lefelau yn llawer is yng Nghymru nag yng ngweddill gwledydd Prydain ac, yn wahanol i Loegr, fydd yr awdurdodau yma ddim yn cyflwyno gwasanaeth arbennig tros y ffôn a’r We.

“Gallai 65,000 farw”

Ar yr un pryd, mae’r awdurdodau yn Lloegr yn awgrymu y gallai tua 65,000 o bobol gael eu lladd gan ffliw’r moch yng ngwledydd Prydain.

Mae’r amcangyfrif wedi eu seilio ar y syniad y bydd 30% – neu 18 miliwn – o’r boblogaeth yn cael y ffliw a bod 0.35% o’r rheiny yn marw. Ond fe allai’r ffigwr amrywio rhwng 3,000 a 750,000.

Yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, mae nifer y cleifion sydd wedi cysylltu gyda doctoriaid wedi cynyddu o 50% yn ystod yr wythnos ddiwetha’.

Fe gyhoeddwyd fod plentyn arall wedi marw o’r clefyd yr wythnos yma – roedd y bachgen 6 oed o Swydd Caint yn iach ym mhob ffordd arall.

Gofyn i Whitehall dalu

Mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud cais arall am gymorth ariannol o Lundain i ddelio gyda’r ffliw.

Maen nhw’n cymharu’r pandemig gyda chlwy’r traed a’r genau ymhlith gwartheg ac yn dweud mai Llywodraeth Prydain ddylai dalu.

Roedd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi gwneud cais tebyg rai dyddiau yn ôl.

Fe gafodd yr Albanwyr yr un ateb ag yntau – mae’r gallu i drin yr afiechyd wedi ei ddatganoli, a’r arian hefyd.