Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y modd y mae’r Trysorlys yn ariannu’r Cynulliad yn hen ffasiwn ac nad yw Cymru yn cael ei siâr haeddiannol.
Roedd gweinidogion yn ymateb i adroddiad Pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar Fformiwla Barnett, oedd yn dweud bod eisiau cael gwared ar y fformiwla sy’n rhoi arian cyhoeddus i Gymru.
Mewn datganiad dywedodd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, ei ddirprwy Ieuan Wyn Jones, a’r Gweinidog Cyllid, Andrew Davies, eu bod nhw’n “croesawu’r consensws sy’n ymddangos ar draws Brydain.
“Rydan ni hefyd yn cytuno gyda Tŷ’r Arglwyddi bod Cymru ddim wedi cael digon o arian.”
Ystyried newid
Mae’r Trysorlys wedi dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i newid y fformiwla sydd heb gael ei hail asesu ers cael ei sefydlu yn y 1970au.
Ond mae Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi cydnabod y bydd rhaid i’r Llywodraeth ystyried hynny nawr.
Fe ddywedodd wrth Radio Wales bod y fformiwla’n weddol deg ar hyn o bryd ond bod angen edrych i weld a oedd eisiau ei haddasu neu ei diwygio.
Galw am Gomisiwn
Mae’r Pwyllgor ar Fformiwla Barnett yn argymell sefydlu Comisiwn Cyllido ar gyfer y Deyrnas Unedig a fyddai’n penderfynu ar anghenion ac yn addasu’r fformiwla wrth i’r boblogaeth newid.
Mae’n dweud fod yr Alban wedi bod yn derbyn mwy na’i siâr o’i gymharu â Chymru a Gogledd Iwerddon. Dyna hefyd oedd casgliad Comisiwn Holtham yr wythnos ddiwetha’.
“Ateb tymor byr oedd y Fformiwla ond fe drodd yn barhaol,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, yr Arglwydd Richard. “A hynny oherwydd ei fod yn hawdd a chyfleus i swyddogion a gweinidogion y Trysorlys.”
Y Fformiwla – sut mae’n gweithio
Fe gafodd Fformiwla Barnett ei sefydlu yn 1978 a, fyth ers hynny, dyna sydd wedi penderfynu faint o arian cyhoeddus sy’n mynd i wledydd datganoledig Prydain. Y llynedd, roedd yn gyfrifol am ddosbarthu £49 biliwn.
O’r holl wario ar faterion fel iechyd ac addysg yng ngwledydd Prydain, mae Cymru’n derbyn tua 5% o’r cyfanswm – ar sail ei phoblogaeth yn niwedd yr 1970au.
Un o brif feirniadaethau Pwyllgor yr Arglwyddi oedd bod y fformiwla yna wedi aros yr un peth tros y 30 mlynedd ddiwetha’, er fod poblogaethau ac anghenion y gwledydd wedi newid.