Mae o leia’ naw o bobol wedi cael eu lladd yn Indonesia mewn dau ffrwydrad mewn gwestai moethus ynghanol y brifddinas.
Yn ôl llefarydd ar ran llywodraeth y wlad, roedd yn ymosodiad a oedd wedi ei drefnu’n ofalus fel bod y ddau ffrwydrad yn digwydd yr un pryd, ychydig cyn wyth y bore yn amser y wlad.
Mae’r ddau westy, y Ritz Carlton a’r J.W. Marriott, o fewn hanner canllath i’w gilydd yn ‘Nhriongl Aur’ yr ardal fusnes yn Jakarta ac yn boblogaidd gyda thramorwyr – roedd rhai o chwaraewyr Man Utd i fod i aros yn y Ritz Carlton dros y Sul.
Mae’n ymddangos fod chwech o’r marwolaethau yn y J.W. Marriott a bod o leia’ bedwar o dramorwyr ymhlith y rhai a laddwyd. Ar hyn o bryd, yn ôl tystion, hunan-fomwyr yw’r esboniad mwya’ tebygol.
Roedd llygaid-dystion yn sôn am sŵn tri ffrwydrad, gyda blaen y J.W Marriott wedi ei chwalu. Roedd y bom yn y Ritz wedi ffrwydro yn ardal y bwyty, pan oedd pobol yn brecwasta.
Targed amlwg
Mae’r ddau westy’n anferth, gyda 333 o ystafelloedd yn y ddau ac roedd y Marriott wedi cael ei ddifrodi gan fom arall yn 2003 pan gafodd 12 o bobol eu lladd.
Mae gwestai o’r fath wedi bod yn darged amlwg i derfysgwyr yn Ne Asia – grŵp eithafol Moslemaidd o’r enw Jemaa Islamiyah oedd yn gyfrifol am y bom chwe blynedd yn ôl.
Eisoes, mae Llywodraeth Awstralia wedi rhybuddio ei dinasyddion i beidio â mynd i Indonesia.