Fe fydd gogledd Cymru ar flaen y diwydiant ceir wrth i gwmni Toyota benderfynu adeiladu peiriannau un o’u ceir mwya’ modern yno.
Fe gyhoeddodd y cwmni heddiw y byddan nhw’n dechrau adeiladu eu car trydan a phetrol Auris yng ngwledydd Prydain – y cyrff yn Burnaston yn Sir Derby a’r peiriannau yn eu gwaith ar Lannau Dyfrdwy.
Dyma fydd y tro cynta’ i Toyota adeiladu car hybrid yn gyfangwbl yn Ewrop ac mae’r model eisoes wedi gwerthu bron 400,000 o geir ar draws y byd.
Fe fydd y manylion llawn yn cael eu cyhoeddi yn Sioe Geir Frankfurt ym mis Medi a’r gwaith adeiladu yn dechrau y flwyddyn nesa’.
Mae 550 o weithwyr yn y ffatri yn Sir y Fflint ac ynghynt eleni roedden nhw wedi cymryd gostyngiad cyflog o 10% er mwyn arbed swyddi.
Roedd y penderfyniad i fuddsoddi yng Nghymru yn arwydd o hyder y cwmni yn y gweithwyr, meddai Llywydd a Phrif Weithredwr Toyota, Tadashi Arashima.
“Buddsoddiad yn y dyfodol”
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Economi, Ieuan Wyn Jones, wedi croesawu’r newyddion.
“Mae hwn yn hwb anferth i’r sector cynhyrchu yng Nghymru,” meddai. “Mae’n fuddsoddiad yn nyfodol technoleg adeiladu ceir ac yn nyfodol un o’r gweithfeydd cynhyrchu pwysica’ yng ngogledd Cymru.
“Mae Glannau Dyfrdwy bellach ar ben blaen y diwydiant ceir.”
Yr Auris
Cafodd yr Auris ei lansio yn 2007 ac mae 370,000 o geir wedi eu gwerthu erbyn hyn.
Mae’n torri 17% ar garbon deuocsid ac 19% ar ddefnydd o danwydd.