Fe fydd Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, yn mynd i Alwminiwm Môn heddiw, wrth i’r frwydr barhau i achub y gwaith.

Yn y prynhawn, fe fydd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Bob Parry, yn cyfarfod â’r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, i geisio cael rhagor o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer ail-hyfforddi gweithwyr.

Fe fydd Peter Hain a’r AS lleol, Albert Owen, yn cyfarfod gyda rheolwyr lleol y cwmni ac arweinwyr yr ymdrech i ddiogelu swyddi a chwilio am waith arall.

“Dim ots faint o bres fydden ni’n ei gynnig mewn gwirionedd, mae’n ymddangos eu bod nhw wedi penderfynu’n barod. Tasan ni’n cynnig £100 miliwn o bunnau iddyn nhw, fydden nhw’n dal yn ein gadael ni i lawr,” meddai Bob Parry wrth Golwg360.

Y disgwyl yw y bydd 80 o bobol yn aros yn y gwaith ger Caergybi ond dim ond i drin metal o ffynonellau eraill.

“Penderfyniad wedi cael ei wneud yn barod”

Mae’r cwmni’n rhoi’r bai ar fethiant Alwminiwm Môn i gael cytundeb newydd ar gyfer trydan rhad ond mae gwleidyddion lleol yn amau fod y rhiant-gwmni, RTZ, wedi gwneud y penderfyniad eisoes.

“Esgus ydi eu bod nhw eisio trydan rhad – waeth pa mor rhad ydi o, ein cau ni fydden nhw a chael y trydan yn rhatach dramor. “Ail hyfforddi gweithiwyr sydd bwysicaf i’r cyngor yn awr a gofalu am y staff.”

Yn y cyfamser, dywedodd y cynghorydd lleol eu bod yn disgwyl cyhoeddiad ynghylch adeiladu atomfa newydd yn yr Wylfa yn 2010. Yn ôl Bob Parry, byddai’n “obeithiol” gallu hyfforddi gweithiwyr i weithio yn y fan hono.