Mae rheolwr Wrecsam, Dean Saunders, wedi cadarnhau bod y clwb yn agos i arwyddo’r chwaraewr canol cae o Ffrainc, Hedi Taboui.

“Dyw e’ ddim wedi arwyddo eto, ond ry’n ni wedi dod i gytundeb â Hedi, ac rwy’n gobeithio y bydd yn arwyddo ddydd Iau”, meddai Saunders, cyn ychwanegu:

“Mae e’ yn chwaraewr da iawn, ac yn fy atgoffa o Tugay (cyn-chwaraewr Blackburn). Mae’n chwaraewr rydym yn lwcus o gael oherwydd rwy’n meddwl y gallai chwarae ar lefel uwch”.

Roedd yn arfer chwarae i AC Arles yng nghynghrair dau Ffrainc.

Gyda Taboui yn agos at arwyddo, dywedodd Dean Saunders ei fod yn hapus gyda chryfder canol cae ei dîm.

Ond ychwanegodd ei fod dal yn gobeithio cryfhau’r amddiffyn a’r ymosod.