Mae gyrrwr bws ysgol wedi colli ei swydd ar ôl cael ei ffilmio yn gyrru a’i ddwy law oddi ar yr olwyn lywio wrth siarad ar ffôn symudol.

Roedd Colin Minall, 71, o Vale Park, y Rhyl, yn gyrru bws oedd yn cludo disgyblion rhwng Prestatyn ac ysgolion yng Nghaer, ar 15 Mai, pan gafodd ei recordio ar ffôn symudol un o’r plant ysgol.

Mae’r ffilm yn ei ddangos yn dal ffôn symudol wrth ei glust chwith efo’i law dde, ac yn gafael yn yr olwyn lywio â’i law chwith; ac yna’n gollwng yr olwyn lywio yn gyfan gwbl er mwyn newid gêr.

Dangosodd y plentyn y ffilm i’w rieni, ac fe wnaethon nhw alw’r heddlu.


‘Eironig’

Cafodd Colin Minall ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus, ac fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Prestatyn ddoe.

Plediodd yn euog, ac fe gafodd ddirwy o £70, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £75.

Cafodd hefyd bedwar pwynt ar ei drwydded.

Yn ôl Robert Vickery, ei gyfreithiwr, roedd y digwyddiad yn un “eironig iawn,” gan mai cyflogwyr Colin Minall oedd wedi galw ei ffôn symudol i ofyn lle’r oedd e’ – oherwydd bod rhieni yn poeni gan fod y bws 45 munud yn ddiweddarach na’r disgwyl.