Fe wnaeth gwraig oedd yn marw o ganser baratoi canllawiau manwl i’w gŵr ar sut i fagu eu plant yn ystod misoedd olaf ei bywyd.
Cyn iddi farw yn ôl ym mis Chwefror, fe wnaeth Jemma Oliver baratoi nodiadau manwl i’w gŵr Jason ar sut i fod yn fam a magu eu plant Keaton, 4 oed a Codi, 2.
Bedwar mis ar ôl i Jemma Oliver roi genedigaeth i Codi, cafodd wybod ei bod yn dioddef o ganser ceg y groth.
Er iddi wella dros dro ar ôl cael hysterectomi, triniaeth cemotherapi a radiotherapi, fe wnaeth hi ddarganfod lwmp ar ei gwddf.
Cafodd wybod gan arbenigwyr ei bod hi yn dioddef o ganser angheuol.
Fel rhan o’i hymdrech i roi gwersi magu plant i’w gŵr, fe wnaeth hyd yn oed logi person trin gwallt i ddangos sut i roi gwallt Codi mewn plethen Ffrengig.
Yna, aeth ymlaen i ysgrifennu degau o gardiau pen-blwydd i’w gŵr roi i’r plant yn y dyfodol.
Ynghyd â’r holl waith trefnu, nododd hefyd enwau’r ysgolion roedd hi am iddyn nhw fynychu.
“Dosbarth meistr bod yn fam”
Dywedodd Jason Oliver wrth bapur newydd y Western Mail bod ei wraig wedi “cymryd fy llaw a dweud yn dawel ei bod yn gwybod ei bod yn marw, a bod llawer o waith cynllunio ganddi i’w wneud.
“Fe es i drwy ddosbarth meistr ar sut i fod yn fam i’r plant. Feddyliodd hi am bopeth i’m helpu.
“Dwi’n edrych ar ei chanllawiau hi am gymorth yn gyson. Dwi’n teimlo ei bod hi’n edrych ar ein hôl ni, ac yn ein harwain ar hyd y ffordd .”
(Llun: donnamarijne)