Mae banc Lloyds wedi eu cyhuddo gan undebau o “fradychu” trethdalwyr dros eu cynllun i ddiswyddo 1,200 yn fwy o weithwyr.
Mae hynny’n codi’r nifer o ddiswyddiadau i 8,000 yn y misoedd diwethaf – yn sgil cyfuno banciau HBOS a Lloyds TSB.
Dywedodd undeb Unite y dylai Lloyds roi’r gorai i greu swyddi dramor oherwydd y “dyfodol ansicr” yr oedd gweithwyr ym Mhrydain yn wynebu.
Fe fydd staff yng Nghaeredin, Bryste, Leeds, Southend a Halifax yn cael eu heffeithio gan y toriadau.
Ysbryd ‘yn isel’
Pwysleisiodd y banc y byddai 370 o’r toriadau swyddi yn cael eu gwneud drwy ryddhau gweithwyr sydd wedi eu contractio’n allanol. Fe fydden nhw hefyd yn creu 180 o swyddi newydd.
“Y gobaith yw y bydd gweithwyr sy’n gadael y cwmni yn gwneud hynny drwy ymddiswyddo’n wirfoddol. Dewis olaf fydd diswyddiadau gorfodol,” meddai’r cwmni.
Dywedodd Unite bod ysbryd gweithwyr Lloyds yn cael ei daro’n galed gan y diswyddiadau cyson.
“Mae’r 1,200 o swyddi sydd wedi eu torri heddiw yn fradychiad o ymdrech y trethdalwr i gynnal Grŵp Bancio Lloyds,” meddai swyddog cenedlaethol Unite, Rob MacGregor.
“Sut maen nhw’n cyfiawnhau torri 8,200 o swyddi yn y tri mis diwethaf pan mae Lloyds yn parhau i wneud llawer o fusnes y tu allan i’r wlad?”