Mae’r nifer sy’n cael eu hanfon i’r ysbyty gydag asthma yng Nghymru 10% yn uwch na’r nifer cyfartalog ar draws Prydain ac ymhlith yr uchaf yn y byd fel canran o’r boblogaeth.

Daw’r dystiolaeth ddiweddaraf o arolwg gan elusen Asthma UK Cymru.

Yn ôl yr arolwg, mae oddeutu 400 o ddioddefwyr asthma yng Nghymru yn cael eu hanfon i’r ysbyty bob blwyddyn, ymysg y tua 260,000 o ddioddefwyr yn y wlad.

Aiff yr arolwg ymlaen i ddatgan fod nifer y plant sy’n cael eu gyrru i’r ysbyty o ganlyniad i’r cyflwr 6% yn uwch na’r nifer cyfartalog ym Mhrydain.

“Mater iechyd difrifol”

Mae tua un ym mhob 12 o oedolion yn dioddef o’r cyflwr ac un ym mhob 10 o blant.

“Mae angen i ni roi mwy o sylw i asthma yng Nghymru,” meddai Peter Black, llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Mae angen gwell gwybodaeth am y cyflwr yn ogystal a mwy o waith hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr mewn ysgolion a cholegau,” meddai.

Dywedodd bod angen mwy o bwyslais ar ddeall yr hyn sy’n achosi asthma yn y lle cyntaf ynghyd â gwell triniaethau i’r cyflwr.