Fe fydd Cyngor Sir Benfro yn dechrau trafodaethau i geisio tynnu rhai o wasanaethu y Parc Cenedlaethol lleol o dan ei adain.
Roedd yna bleidlais unfrydol bron gan y Cyngor llawn heddiw yn cefnogi’r syniad ac fe fydd y trafodaethau yn dechrau gyda Llywodraeth y Cynulliad o fewn y dyddiau nesa’.
Os bydd y trafod yn llwyddo, fe fyddai’r Parc a’r Cyngor yn rhannu rhai o’r un swyddogion, gan gynnwys Prif Weithredwr a Phennaeth Cynllunio.
Annog rhagor o gydweithio
Roedd y rhybudd o gynnig a basiwyd heddiw yn sôn am “annog rhagor o gydweithio ym maes cynllunio a gwasanaethau eraill” – i bob pwrpas, fe allai olygu tynnu’r Parc i mewn o dan adain y Cyngor, sy’n gorff llawer mwy.
Roedd y cynnig, gan y cynghorydd o Benfro, Arwyn Williams, yn ymateb i adroddiadau beirniadol am beth o waith y Parc ym maes cynllunio ac yn ei weinyddiaeth. Mae Prif Weithredwr y Parc, Nic Wheeler, hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol yn y gwanwyn.
Mae’r Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson hefyd wedi gwneud yn glir ei bod hi eisiau newid a mwy o gydweithio. Ati hi y bydd y Cyngor yn mynd i ddechrau’r drafodaeth.
Ar ôl trafodaeth hir a gwrthwynebiad gan aelodau Cyngor sydd hefyd yn aelodau o Awdurdod y Parc, fe bleidleisiodd y cynghorwyr o 48-1 o blaid y cynnig, gyda tri neu bedwar yn ymatal.
Disgwyl gwrthwynebiad
Hyd yma, dyw Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ddim wedi ymateb ond mae’r Cyngor yn disgwyl tipyn o wrthwynebiad. Fe fydd cefnogwyr y Parc yn ei weld yn ymgais i fynd â’u grym.
Yr hyn sy’n ei gwneud hi’n haws i gydweithio ddigwydd yn Sir Benfro yw fod y Parc, yn wahanol i Eryri a Bannau Brycheiniog, yn gyfangwbl o fewn yr un sir.
Arbed arian, gwell gwasanaethau
Mewn cyfweliad gyda Golwg 360, dyma ddywedodd John Davies, Arweinydd Cyngor Sir Benfro
“Does dim bwriad i waredu’r Parc Cenedlaethol, dim o bell ffordd. Mae’r Parc a’r hyn y mae’n ei gynnig i’r economi o ran cyflogaeth a’r brand yn werthfawr i ni i gyd.
“Ond mewn amser a chyfnod o brinder cynyddol o gyllid ac o ystyried gwendidau yn y Parc o ran cynllunio’n arbennig, ac o ran rheolaeth, dyma’r amser i edrych ar ddod â’r ddau strwythur yn agosach.
“Mae yna gyfle i wella gwasanaethau ar y ddwy ochr. O ran cynllunio, er enghraifft, mae gyda’r Cyngor wendidau ac yn bendant mae gan y Parc. Ond ar ochr cadwraeth fe fyddai’n fuddiol i ni gael eu harbenigedd nhw.
“Gyda Prif Weithredwr y Parc yn ymddeol, mae pobol yn gofyn pam fod angen Prif Weithredwr ar y Cyngor ac ar y Parc? A pham fod angen Pennaeth Cynnlunio ar y Cyngor ac ar y Parc?
“Dw i ddim yn credu y bydd y Parc yn hapus iawn. Ar ddechrau’r drafodaeth heddiw roedd rhai aelodau sydd ar y Parc hefyd yn erbyn unrhyw newid. Ond d’yn ni ddim yn sôn am lastwreiddio gwerthoedd y Parc o gwbl.
“Mae’n fater syml o gydweithio er mwyn arbed costau a gwella gwasanaethau.”
Llun: Un o ogoniannau’r Parc _ Marloes (Donar Reiskofferdan – Trwydded GNU)